Amdanom ni

Mae FLOWS (Finding Legal Options for Women Survivors) yn wasanaeth elusennol cyfreithiol annibynnol a gynlluniwyd i helpu i amddiffyn menywod rhag cam-drin domestig unrhyw le yng Nghymru a Lloegr trwy ddod o hyd i opsiynau cyfreithiol iddynt.

Rydym yn cefnogi menywod i amddiffyn eu hunain rhag cam-drin domestig a chael gorchmynion llys amddiffynnol gan y llys teulu, ac yn eu helpu i gael mynediad at gyfreithwyr cymorth cyfreithiol sydd â phrofiad o gefnogi goroeswyr cam-drin domestig. I’r rhai sy’n dewis cynrychioli eu hunain, rydym hefyd yn cynnig cyngor ar rinweddau a chymorth i lywio proses y llys, gan gynnwys paratoi ffurflenni a datganiadau i’r llys. Rydym yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth cyfreithiol gorau posibl yng Nghymru ar adeg pan fydd arnoch ei angen fwyaf.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ein gwasanaethau yng Nghymru drwy wneud y canlynol:

  • Rydym yn darparu aelod penodol o staff yng Nghymru i hyrwyddo ein gwasanaethau ac adeiladu ein rhwydwaith gyda sefydliadau Cymreig, gan gynnwys sefydliadau rheng flaen a chwmnïau cyfreithwyr. Mae ein cyfreithiwr a chydlynydd prosiect ar gyfer FLOWS Cymru yn gweithio’n uniongyrchol gyda goroeswyr cam-drin domestig i gynnig cymorth cyfreithiol ar yr holl opsiynau cyfreithiol presennol sydd ar gael yng Nghymru ac i godi materion penodol i Gymru gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a gyda gwasanaethau cymorth cam-drin domestig.
  • Mae ein taflenni/posteri FLOWS ar gael yn Gymraeg.
  • Gallwn ddarparu apwyntiadau cyngor cyfreithiol yn Gymraeg gan ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu.
  • Gallwn gysylltu goroeswyr â chwmnïau cyfreithwyr Cymraeg eu hiaith.

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth FLOWS o ddydd Llun i ddydd Gwener drwy ffonio 0203 745 7707 neu drwy anfon e-bost at [email protected]. Gallwch hefyd lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein.

Gallwch gyrchu ein gwefan gyfreithiol SupportNav, sydd wedi’i chreu o safbwynt goroeswyr cam-drin domestig ac sy’n cynnig gwybodaeth gyfreithiol ar amrywiaeth o bynciau cyfraith teulu: SupportNav | Support against domestic abuse

I gychwyn y broses o gael amddiffyniad gan ddefnyddio ein platfform cyfreithiol ar-lein CourtNav, gallwch wneud cyfrif CourtNav trwy ddilyn y ddolen hon: CourtNav | Helping you navigate your way through court

Cyflenwir gwasanaethau FLOWS gan Royal Courts of Justice Advice mewn partneriaeth â’r elusen Rights of Women.

Darperir gwasanaethau FLOWS yn Saesneg gyda rhai gwasanaethau cyfieithu mewn ieithoedd eraill.